Overview


Community, Participation & Volunteering Manager (Welsh Essential) – Carmarthenshire,Carmarthenshire, United Kingdom

Rheolwr Cymunedol a Chyfranogi

Rydym yn chwilio am Reolwr Cymunedol a Chyfranogi i helpu mwy o bobl gysylltu gyda byd natur, harddwch a hanes ein llefydd ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae hwn yn gyfle i lunio’r ffordd rydym ni’n gweithio gyda chymunedau lleol, gan adeiladu partneriaethau, creu mwy o gyfleoedd cynhwysol i gyfranogi a helpu pobl i gael llais yn nyfodol ein llefydd.

Fel rhan o’n huwch dîm arweinyddiaeth, byddwch yn cynorthwyo i wneud cyfranogiad cymunedol yn flaenoriaeth ar draws y portffolio, gan gefnogi cydweithwyr i weithio’n gydweithredol a gwneud gwahaniaeth arhosol.

Ymrwymiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw “I bawb, am byth.” Mae dod â’r addewid yna’n fyw yn dechrau gyda’r bobl sy’n gweithio yno. Mae’n golygu adeiladu timau gydag ystod amrywiol o gefndiroedd, diwylliannau a phrofiadau. Mae’n golygu creu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn gallu ffynnu. 
Mae ein rolau’n agored i bawb. Fodd bynnag, rydym yn croesawu’n benodol geisiadau gan bobl o liw a phobl yn y mwyafrif byd-eang oherwydd eu bod yn cael eu tangynrychioli yn yr Ymddiriedolaeth.

*Please find the English version of this advert in the attachments*

Dyma gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau lleol, helpu mwy o bobl i gysylltu gyda’n llefydd a’u mwynhau.
Gyda’r gallu i wrando gyda chwilfrydedd, addasu cynigion ein safleoedd i fodloni anghenion lleol wrth gael dealltwriaeth frwd o’r angen i gydbwyso hyn gyda busnes ymwelwyr.   
Mae’r rôl hon yn gofyn am weithio’n agos gyda’r holl gydweithwyr er mwyn sicrhau bod gan ein cynulleidfa leol lais yn llunio dyfodol grŵp portffolio Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, gan sicrhau bod y profiadau rydym ni’n eu cynnig yn berthnasol, yn ddengar, ac yn galluogi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r gymuned leol i ffynnu.

Oriau: 30 awr yr wythnos, a bydd gofyn gwneud peth gwaith ar y penwythnos a gyda’r nos.
Lleoliad: Byddwch wedi’ch lleoli’n bennaf yn Llanerchaeron ger Aberaeron gyda gwaith achlysurol yn Ninefwr a Llandeilo yn ôl y galw. 
Patrwm Gwaith: Bydd eich patrwm gwaith yn cynnwys un diwrnod yr wythnos gydag amser dechrau a gorffen hwyrach.  Byddem yn hapus i drafod y manylion hyn gyda chi pe baech chi’n cael eich cynnwys ar restr fer.

Gan fod hon yn rôl newydd o fewn y portffolio, mae yna gyfle i adeiladu ar waith presennol, datblygu syniadau newydd a helpu i lunio ein hagwedd at gyfranogiad cymunedol.

Byddwch yn gweithredu fel rheolwr llinell i’n Cydlynydd Cymunedol a Chyfranogiad ac yn cefnogi ein rhwydwaith o 224 o wirfoddolwyr ar draws y portffolio. Gan adeiladu ar berthnasoedd lleol sy’n bodoli eisoes, byddwch yn archwilio cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu ehangach a helpu cydweithwyr i ddatblygu ffyrdd mwy cydweithredol o weithio drwy hyfforddi a rhannu arfer da.

Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr rhanbarthol, byddwch yn adnabod cyfleoedd ariannu a datblygu partneriaethau strategol fydd yn helpu mwy o bobl i gael mynediad at ein llefydd a chael budd ohonynt.

Rhan bwysig o’r rôl fydd cefnogi ein gwirfoddolwyr presennol ac archwilio dulliau newydd o wirfoddoli, creu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan, yn arbennig felly teuluoedd a phobl ifanc. Drwy’r gwaith hwn, byddwch yn helpu i wneud mwy o bobl deimlo cyswllt gyda’n llefydd a gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn eich cais, a wnewch chi gynnwys manylion ynghylch sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf isod os gwelwch yn dda: 

  • Gwybodaeth am ymgysylltiad cymunedol, gwirfoddoli a rheoli rhanddeiliaid
  • Deall cyd-destunau mewnol ac allanol, gan gynnwys tueddiadau cymdeithasegol sy’n dylanwadu ar gyfranogiad cymunedol.
  • Profiad o greu profiadau positif a chynhwysol, drwy ddulliau o ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar bobl
  • Y gallu i feddwl yn strategol a defnyddio data a dealltwriaeth i fod yn sail i benderfyniadau
  • Sgiliau cyfathrebu a dylanwadu
  • Y gallu i weithio’n gydweithredol gan gymryd i ystyriaeth y gwahanol safbwyntiau ac anghenion.
  • Profiad o gefnogi a datblygu cydweithwyr neu wirfoddolwyr, gan gynnwys hyfforddi eraill i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio.
  • Trwydded Yrru Lawn y DU

Rydym yn falch o’r rhan y mae’r iaith Gymraeg yn ei chwarae yn y lleoedd a’r cymunedau sydd dan ein gofal ledled Cymru. Mae sgiliau Cymraeg ar Lefel Rhwydwaith 3 yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, fodd bynnag rydym yn cydnabod bod taith ieithyddol pawb yn wahanol, felly byddwn yn eich cefnogi wrth i chi barhau i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder ac i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan bob dydd o’ch gwaith gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw ’I bawb, am byth’. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo’n gartrefol yn ein timau hefyd.   

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol   
  • Mynediad am ddim i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a’ch plant (dan 18 oed)   
  • Cynllun benthyciad blaendal rhent   
  • Benthyciad tocyn tymor   
  • Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema   
  • Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.   
  • Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo’n bosibl   
  • Rhaglen cynorthwyo cyflogai   
  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau   

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi 

Carmarthenshire, Dinefwr Park, Carmarthenshire, SA19 6RT

Compliance.Eligibility to Work in the UK

Closing Date: Sunday 25th October 2026

To apply for this vacancy simply click the ‘apply’ button in the top right hand side of the page.

If you need any help with your application, i.e. due to technical difficulties, please call us on 0370 240 0274 or email us at recruitmentenquiries@nationaltrust.org.uk

If you require an adjustment to the application process, for example due to disability or medical condition, please call us on 0370 240 0274 or email us at adjustments@nationaltrustjobs.org.uk and we’ll support you as best as we can. For examples of how, please see our supporting you page.

Equal Opportunities Statement

The National Trust celebrates diversity and is committed to creating a fair and equal society, free from discrimination. You can read more about our commitment to inclusion and diversity here.

Safeguarding Statement

The National Trust is committed to a safe recruitment processes to help the organisation attract and appoint the right staff/volunteer for the role and responsibilities as set out in the vacancy advert. We will not accept applicants who are not suitable to work with children, young people or adults at risk. If you have any questions around your suitability for this vacancy, please contact the people service centre.

Before you apply -
Register now and turn on alerts for jobs like this!

  • To apply for this position, receive job notifications and manage your applications, click "Register with Diversity Jobs Group".
  • To apply for this position without registering, click "Apply with Customer".

By registering you agree to our terms and conditions.

Apply with Customer

IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.