Overview

Local Authority Technical Consultant – Wales

Salary: £45,700

Location: Wales

Job type: Permanent full-time

Location: Wales with hybrid working

Hybrid working: You will be able to work from home and come into the office to collaborate with your team(s) when required. We have flexible core hours, and we don’t believe in a culture of presenteeism. We will discuss what is important to you during the recruitment process.

Salary & Benefits: £45,700 + 10% pension, 25 days annual leave + bank holidays, 35 hour working week, up to 13 flexi-days, private medical insurance, life assurance, and much more!

Closing date: 22nd April at 9.00am. WRAP reserves the right to close this role early in the event of a large volume of applications.

Visa sponsorship: Please note, we are able to provide visa sponsorship for this role.

Who are we?

WRAP is a global environmental action NGO championing the shift towards a circular economy, fundamentally reshaping how we produce, consume, and manage resources. Our vision is a world transformed, in which Circular Living is commonplace. Where the systems that provide our everyday goods contribute to the world’s prosperity and sustainability instead of reducing it.

WRAP is driving Circular Living through four key areas: accelerating the circular economy, future-proofing food, preventing problem plastics and transforming textiles. We catalyse action from policy makers, businesses, NGOs and citizens to make it happen.

We have offices in the UK, USA and Australia, and live projects in over 30 countries.

Join us at WRAP and you’ll drive important change to make Circular Living the norm.

The role

As our Local Authority Technical Consultant, you will join our Collaborative Change Programme team- experts who support councils to meet Welsh Government’s ambitious Beyond Recycling circular economy strategy.

You will manage and deliver a series of projects with councils around Wales to help them develop their recycling and waste strategies. Engaging with local authorities on recycling and waste technical and policy issues, you will provide advice on potential changes both large and small. You will need to use your knowledge of the range of collection, recycling and sorting systems and understand the Welsh policy and legislative context for delivering recycling and waste services. If you enjoy developing effective working relationships with individuals at a variety of levels and using your technical knowledge to really make a difference, this could be the role for you!

Who are we looking for?

We’re looking for someone passionate about waste and recycling services. You will be able to demonstrate:

  • Extensive knowledge of the range of collection services, sorting and treatment technologies in operation in Wales and the relevant policy and legislative context for the nation(s) in which the role is based.
  • Strong understanding of local authority structures and decision-making processes.
  • Proven ability to engage and influence key senior stakeholders and/or decision makers to develop strategies and agree and deliver change.
  • Demonstrable experience of writing reports with the ability to confidently present and communicate the findings via workshops and meetings with a wide range of delegates.
  • The ability to speak Welsh is desirable but not essential.

Please note that this role does include travel as necessary to locations within the UK. You will occasionally spend time away from home overnight. A full driving license is required for this role as you will be visiting remote sites that are not accessible via public transport.

If you require a job application form in Welsh, please contact jobs@wrap.ngo

CYMRAEG

Math o swydd: Parhaol llawn-amser

Lleoliad: Cymru gyda gweithio hybrid

Gweithio hybrid: Byddwch yn gallu gweithio o gartref a dod i mewn i’r swyddfa i gydweithio â’ch timau yn ôl y galw. Mae ein horiau craidd yn hyblyg, a dydyn ni ddim yn credu mewn diwylliant presenoliaeth. Fe wnawn drafod yr hyn sy’n bwysig i chi yn ystod y broses recriwtio.

Cyflog a Buddion: £45,700 + 10% pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau’r banc, wythnos waith 35 awr, hyd at 13 diwrnod fflecsi, yswiriant meddygol preifat, yswiriant bywyd, a llawer mwy!

Dyddiad cau: 22ain Ebrill am 9.00 y bore. Mae WRAP yn cadw’r hawl i gau’r rôl hon yn gynnar pe derbynnir nifer fawr o geisiadau.

Nawdd fisa: Sylwer, gallwn ddarparu nawdd fisa ar gyfer y rôl hon.

Pwy ydym ni?

Sefydliad anllywodraethol byd-eang sy’n gweithredu ar yr amgylchedd yw WRAP, yn hyrwyddo’r newid tuag at economi gylchol, yn ail-lunio sut rydym yn cynhyrchu, defnyddio a rheoli adnoddau. Ein gweledigaeth yw byd wedi’i drawsnewid, lle mae Ffordd Gylchol o Fyw yn gyffredin. Lle mae’r systemau sy’n darparu ein nwyddau beunyddiol yn cyfrannu at ffyniant a chynaliadwyedd y byd, yn hytrach nag yn ei leihau.

Mae WRAP yn sbarduno Ffordd Gylchol o Fyw drwy bedwar maes allweddol: sbarduno’r economi gylchol, sicrhau gwytnwch bwyd yn y dyfodol, atal plastigion problemus a thrawsnewid tecstilau. Rydym yn gweithio fel catalydd i weithredu gan lunwyr polisïau, busnesau, sefydliadau anllywodraethol a dinasyddion i wireddu hyn.

Mae gennym swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America ac Awstralia, a phrosiectau ar y gweill mewn mwy na 30 o wledydd.

Ymunwch â ni yn WRAP a byddwch chithau’n sbarduno newid pwysig i wneud Ffordd Gylchol o Fyw yn norm.

Y rôl

Fel ein Hymgynghorydd Technegol Awdurdodau Lleol, byddwch yn ymuno â thîm y Rhaglen Newid Gydweithredol – arbenigwyr sy’n cefnogi cynghorau i gyflawni strategaeth economi gylchol uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, Mwy nag Ailgylchu.

Byddwch yn rheoli ac yn cyflwyno cyfres o brosiectau gyda chynghorau ledled Cymru i’w helpu i ddatblygu eu strategaethau ailgylchu a gwastraff. Gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar faterion technegol a pholisi ailgylchu a gwastraff, byddwch yn rhoi cyngor ar newidiadau posibl, mawr a bach. Bydd angen i chi ddefnyddio eich gwybodaeth am yr amrywiaeth o systemau casglu, ailgylchu a didoli sy’n bodoli a deall cyd-destun polisi a deddfwriaethol Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau ailgylchu a gwastraff. Os ydych chi’n mwynhau datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gydag unigolion ar amrywiaeth o lefelau a defnyddio’ch gwybodaeth dechnegol i wneud gwahaniaeth go iawn, efallai mai dyma’r swydd i chi!

Am bwy ydyn ni’n chwilio?

Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol dros wasanaethau gwastraff ac ailgylchu. Byddwch yn gallu dangos:

  • Gwybodaeth helaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau casglu, technolegau didoli a thrin sydd ar waith yng Nghymru a’r cyd-destun polisi a deddfwriaethol perthnasol ar gyfer y wlad/gwledydd y mae’r swydd wedi’i lleoli ynddi.
  • Dealltwriaeth gadarn o strwythurau awdurdodau lleol a phrosesau gwneud penderfyniadau.
  • Gallu profedig i ymgysylltu â rhanddeiliaid uwch allweddol a/neu benderfynwyr a dylanwadu arnynt i ddatblygu strategaethau a chytuno ar newid a’i gyflawni.
  • Profiad profadwy o ysgrifennu adroddiadau gyda’r gallu i gyflwyno a chyfathrebu’r canfyddiadau’n hyderus trwy gyfrwng gweithdai a chyfarfodydd gydag amrywiaeth eang o gynrychiolwyr.
  • Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Sylwer bod y swydd hon yn cynnwys teithio yn ôl yr angen i leoliadau yn y Deyrnas Unedig. Yn achlysurol byddwch yn treulio amser oddi cartref dros nos. Mae angen trwydded yrru lawn ar gyfer y rôl hon gan y byddwch yn ymweld â safleoedd anghysbell nad ydynt yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus

Barod i arwain tuag at ffordd gylchol o fyw?

Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r hyn sydd ei angen ond bod eich profiad yn edrych yn wahanol i’r hyn sy’n cael ei hysbysebu, gwnewch gais er hynny. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’ch oedran, hil, rhyw, niwroamrywiaeth, gallu, credoau, rhywioldeb neu ddewisiadau personol.

Rydym am eich helpu i fod ar eich gorau, felly cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch yn ystod y broses recriwtio.

Gallwch ddysgu mwy am fywyd gyda WRAP yma.

Before you apply -
Register now and turn on alerts for jobs like this!

By registering you agree to our terms and conditions.

No thanks, continue to apply